|
Croeso WTB |
Tyddyn Du Gwely a Brecwast Bed and Breakfast |
Welcome WTB |
|||
|
Mwynhewch wyliau tawel neu seibiant byr yn y lleoliad hardd yma yn Eryri “Wrth droed y Mynydd” a chroeso traddodiadol Cymreig |
|
Enjoy a peaceful holiday or break in this stunningly beautiful Snowdonia location “ON TOP OF THE WORLD” and traditional Welsh hospitality. |
|||
![]() |
Perchnogion
/ Proprietors.
Robin a and Dorothi Evans,
|
![]() |
|||
|
ystafell wely dwbl gyda “ensuite” ystafell dwbl gyda dau wely a basin molchi ac hefyd acses i ystafell molchi gyda bath a chawod Mae gan y ddwy lofft ddarpariaeth te a coffi. Prisiau o Ł25.00 y person y noson
|
Double bedroom with “ensuite” Twin bedroom with wash basin Bedrooms have tea and coffee facilities. Prices from Ł25 per person per night.
|
||||
|
Pam dewis ein darpariaeth ni? Beth sydd gennym i gynnig Profiad o ddarparu ar gyfer, a chroesawu ymwelwyr am dros 25 mlynedd. Lolfa gyfforddus i ymlacio ynddi. Bwydlen brecwast o ddewis personol. Dewis o frecwast allan yn yr ardd Mynediad i’r gegin i ddarparu pecyn bwyd am y diwrnod. Gwasanaeth cefnogol ar gyfer dyswyr
Cymraeg. |
Why choose us? What we have to offer 25 years of welcoming visitors Comfortable lounge to relax in. Personal Breakfast menu. Choice of having breakfast served in the garden Access to kitchen facilities for picnic preparation Support for Welsh language learners |
||||
Lleoliad
Wedi ei leoli yn hwylus ar gyfer:- Golff, hwylio,pysgota,marchogaeth, llwybrau cerdded, dringo mynyddoedd, rafftio dŵr gwyllt, trennau stęm, i gyd ,a llawer mwy o fewn siwrne byr. Mwynhewch ymweliad i wahanol lefydd fel , er engraifft,Abermaw, Porthmadog, Harlech, Blaenau Ffestiniog, Portmerion, Cricieth, Llyn Fyrnwy i weld y traethau, castelli, chwareli llechi, llynnoedd a.y.y.b. |
Location Traditional family farmhouse approx five miles from Bala Lake Quiet with panoramic views Safe parking for cars and bikes. Ideally located for:- Golf, sailing, fishing, horse riding, walking, mountain climbing, white water rafting, steam trains, and much more, all within easy reach. Enjoy a visit to various locations to see the beaches, castles, slate mines, lakes etc., at Barmouth, Porthmadog, Harlech, Blaenau Ffestiniog, Portmeirion, Criccieth, Lake Vyrnwy, to name but a few. |
||||
|
Ein amcan yw:-
Darparu llety cyfforddus a chynnig cefnogaeth i sicrhau ymweliad pleserus. |
We aim to:- Provide a comfortable accommodation and endeavour to give support to ensure a pleasurable stay. |
||||
|
Y ma wrth droed y mynyddMae Croeso ar eich cyfer chwi, Mawr obeithiwn y byddwch Yn mwynhau aros gyda ni. |
H ere in the heart of WalesIs the best place for a holiday Our Croeso means we welcome you And hope you enjoy your stay. |
||||
|
Tyddyn Du Gwely a Brecwast. Fferm deuluol yw Tyddyn Du, sydd wedi cael ei ffarmio gan 4 cenhedlaeth o’r un teulu. Mae wedi ei lleoli mewn man hynod o hardd yn Eryri, oddeutu 5 milltir o dref hanesyddol Bala. |
Tyddyn Du
Bed & Breakfast Tyddyn Du is a typical Welsh farm, which has been cared for by 4 generations of our family and is set in a stunningly beautiful location about 5 miles from the fascinating and historic market town of Bala in the Snowdonia National Park. |
|
| Bydd ymwelwyr yn cael gryn bleser o weld yr anifeiliaid ac arsyllu gwaith dyddiol ar y fferm. Mae gweld y buchod yn gofalu am y lloi, a’r cŵn yn casglu’r defaid yn y caeau o amgylch y tŷ, yn rhoddi cyfle gwych i bobl weld bywyd cefn gwlad ar ei orau. Fel gwybodaeth ychwanegol, yn y Bala y cynhaliwyd treialon Cŵn Defaid cyntaf, sef canlyniad i ddadl rhwng dau ffarmwr pwy oedd gan y ci gorau!. Mae yna garreg yn y cae lle y bu i’r ornest yma gymeryd lle. | Our guests take special delight in observing the animals and activities
on our farm. For example, the calves being cared for by the cows, or
watching the amazingly skilled sheepdogs gathering the sheep in the fields
which surround the house - just like “One Man and his Dog” on the
television. It is interesting to note that the first ever sheepdog trials
in the world were held in Bala as a result of a bet between two sheepdog
owners who could not resolve by argument who’s dog was the most skilful!
There is a plaque in the field where this event occurred. |
|
| Yn ystod y gwanwyn, mae gweld wyn bach yn cael eu
geni, ac yna mewn byr amser yn prancio a chwarae yn y caeau yn olygfa
hudolus. Mae’r cyfan yn gyfle gwych i blant ddysgu am fywyd a gwaith y
fferm, ac yn cynnig gwybodaeth ar gyfer stori gwyliau diddorol pan yn
dychwelyd i’r ysgol. Mae aelodau’r teulu yn ymfalchďo yn niddordeb ymwelwyr, ac yn barod bob amser i ateb cwestiynau. |
During spring time, the birth of lambs is always fascinating to
witness, and then to see them gamboling and playing together provides
families, and especially children, absolute delight and an insight to what
life on the farm is all about. For children this combines to make an
educational holiday that is enjoyable as well. Children love to write stories when they get back to school, about their adventures and what they have seen and done on the farm. We encourage your interest and questions are always welcome. |
|
| Gwesty fferm 3 seren Bwrdd Croeso Cymru yw Tyddyn Du, ac mae’n cynnig safon uchel o lety gwely a brecwast i unigolion, grwpiau a theuluoedd. | Tyddyn Du
High quality Bed & Breakfast accommodation is offered for
individuals, groups and for families alike. |
|
| Mae gennym 25 mlynedd o brofiad o groesawu ymwelwyr i’n cartref, ac ein prif amcan yw sicrhau ein bod yn rhoddi cefnogaeth mae pobl angen i fwynhau eu harhosiad. Mae brecwast Cymreig llawn ar gael, a fydd yn rhoddi sylfaen i anturiaethau’r diwrnod! Gallwn ymateb i anghenion deiet arbennig, gyda rhybudd ymlaen llaw. | We have 25 years experience of welcoming visitors to our home, our emphasis being to provide guests with comfortable accommodation and we endeavour to give you the support you need to ensure a pleasurable stay. Of course you will enjoy a full Welsh breakfast to set you up for the day’s adventures. Special dietary requirements can be accommodated, (advance notice please) | |
|
Iaith a diwylliant Cymru. Cymraeg yw iaith gyntaf y teulu, ac ‘rydym yn barod i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr yr iaith, drwy roddi cyfle iddynt ymarfer ei sgil newydd. Mae’r Gymraeg yn iaith hynafol, ac mae ymwelwyr yn mwynhau ymarfer geiriau, a dysgu am lythrennau fel Ll. “Gwlad y Gan” - dyna ddisgrifiad o Gymru. Os yw ymwelwyr am gael cadarnhad o hyn mae côr byd enwog o bentref Llanuwchllyn yn ymarfer ar nos Iau, ac mae croeso i unrhyw un droi i mewn i’r Neuadd i wrando arnynt. Wrth gymeryd cyfle i fynychu cyngherddau, eisteddfodau a sioeau amaethyddol, mae modd i ymwelwyr arsyllu bywyd cefn gwlad Cymru ar ei orau.
|
The Welsh Language and Culture: Your hosts, Dorothi and Robin Evans’ first language is Welsh and we can
offer learners of the Welsh language encouragement and support by giving
them an opportunity to practice their newly acquired skills. Welsh is a
beautiful ancient language and we find guests love to have a go at some of
the everyday words and unfamiliar sounds, like the double “LL’s” The
language is also a very musical language and the Welsh people are famous
for their singing. In fact Wales is known as “Gwlad y Gan” or “Land of
Song” and there is a famous male voice choir located quite close to us in
the village of Llanuwchllyn, at the head of the lake. Their practice night
is on Thursdays and visitors are welcome to listen to the lovely music.
You will also find concerts to go to and lots of local country shows in
the spring and summer months. Here you will see all the country skills
being demonstrated or competed at as well as fine livestock and
agriculture competitions, handicrafts etc. |
|
|
Llety Yn Nhyddyn Du mae yna 1 lofft ddwbl gyda darpariaeth “ensuite” 1 llofft dau wely gyda basn ymolchi ac acses i fathondy preifat sydd â bath a chawod. Mae’r ddwy lofft wedi eu lleoli ar lawr cyntaf y tŷ, ac mae ganddynt ddarpariaeth te a choffi a theledu lliw . Mae yna ddarpariaeth cysgu ychwanegol mewn llofft wrth ymyl, ac mae ar gael i gysgu aelodau ychwanegol o’r un teulu neu grŵp,ond bod rhaid rhannu cyflysterau bathondy. ‘Rydym hefyd yn barod i gynnig costau arbennig ar gyfer teuluoedd neu grwpiau. Os yw ymwelwyr yn dymuno ymlacio yna mae yna
lolfa gyfforddus sydd â theledu lliw, a silff lyfrau gyda llyfrau Cymraeg
a Saesneg. Mae acses ar gael i’r gegin i ddarparu pecyn bwyd am y diwrnod,
ac ar ddyddiau poeth a braf mae modd cael brecwast yn yr ardd. |
Accommodation: Tyddyn Du has a double bedroom with “ensuite” facilities, and a twin
bedroom which has a wash basin and access to a private bathroom with bath
and shower. Both bedrooms are situated on the first floor and have colour
television and tea and coffee facilities. |
|
|
Lleoliad. Mae Tyddyn Du wedi ei leoli mewn ardal hyfryd
wrth droed Mynydd Arenig yn Eryri. Gall yr ardal gynnig teithiau cerdded
ar gyfer teuluoedd yn ogystal ag unigolion mwy mentrus a phrofiadol. Gall
ymwelwyr deithio i lefydd fel traethau, llynnoedd, castelli, chwareli
llechi, Canolfan technoleg amgen ym Machynlleth, rhaeadrau, Canolfan dŵr
gwyllt yn y Bala ac wrth gwrs y posibilrwydd o gerdded neu gymeryd y tręn
i ben yr Wyddfa, (mynydd uchaf Cymru a’r ail uchaf ym Mhrydain). Hyn i gyd
ar hyd ffyrdd sydd yn cynnig golygfeydd anhygoel
ac o fewn taith o oddeutu 30 i 60 munud.
|
Location Tyddyn Du is situated in beautiful open countryside at the foot of
Arenig mountain. The area offers country trails that families can enjoy
exploring to walks that are more suitable for individual experienced
walkers. |
|
|
Bala
Tref marchnad hynafol yw Bala, wedi ei lleoli o
fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Yma mae Llyn Tegid (sef y llyn mwyaf
naturiol yng Nghymru). Mae yma siopau gwahanol a digon o lefydd i fwyta, a
chanolfan dwristiaeth groesawgar sydd â gwybodaeth am e.e. Taith Gerdded y
Bala. Esiampl o berson hanesyddol o’r ardal yw Mary Jones a gerddodd yn
droednoeth o Pennal i’r Bala i geisio Beibl Cymraeg.
(Mae yna garreg uwchben Banc y Barclays i gofnodi
hyn)
|
Bala is a lively small market town beautifully located within the Snowdonia National Park, at the head of its famous lake, Llyn Tegid (Llyn is Welsh for lake) the largest natural lake in Wales, and offers the visitor a wealth of shops, cafes, pubs and restaurants and a famous historic “Town Walk” (leaflets from Tourist Information Office on lake foreshore). One of the most famous people in history, from Bala area, was Mary Jones who walked barefoot for miles to Bala for a Bible written in Welsh (commemorated by a plaque over the Barclays Bank). To find out more about Bala visit the town’s official website www.bala-snowdonia.com
|
|
|
.Gweithgareddau. Os am fwynhau gweithgareddau yn arbennig rhai i ymwneud â dŵr, yna Bala yw’r lle!, gallwch fwynhau canwio, rafftio dŵr gwyn, (profiad bythgofiadwy ac anhygoel o gyffrous ) ac mae pobl yn mynd mwy nag unwaith! Yn y clwb hwylio lleol mae modd derbyn gwersi i gyrraedd safon uchaf mewn hwylio,ac yna mae afon Ddwyryd yn enwog am bysgota plu. Llyn Tegid yw’r llyn mwyaf naturiol yn y wlad, ac mae yna dręn bach yn rhedeg wrth ochr y llyn o’r Bala i Lanuwchllyn.Mae’r ganolfan gwybodaeth ar lan y llyn wrth ochr y ganolfan Hamdden sy’n cynnig gweithgareddau ar gyfer y teulu ac yn opsiwn delfrydol ar gyfer y dyddiau ddim mor braf!
|
Activities: Bala’s locality offers visitors various outdoor activities, many being
water-linked. The local Canoeing Centre offers an opportunity to book a
white-water rafting experience!, and people do book to go again!.
|